Cwynodd Mr C am y gofal yr oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi’i ddarparu i’w nain, Mrs X. Roedd yn anghytuno â pheth o’r wybodaeth yn ymateb y Bwrdd Iechyd a chwynodd nad oedd tystiolaeth ddigonol o ddysgu.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn wedi rhoi sylw digonol i’r pryderon a fynegwyd gan Mr C. Nid oedd yr ymateb yn adlewyrchu’n llawn yr wybodaeth yng nghofnodion clinigol Mrs X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mr C o fewn dau fis i roi sylw i’r pryderon ac i ddisgrifio unrhyw gamau pellach y bydd yn eu cymryd.