You are not viewing the production site.

Dyddiad yr Adroddiad

11/02/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202409098

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr B am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan y Bwrdd Iechyd am ganser y prostad. Yn benodol, a oedd ei reolaeth glinigol a’r cyfathrebu rhwng Gorffennaf 2024, pan gafodd ei atgyfeirio i’r ysbyty, a 3 Chwefror 2025 pan ddechreuodd ei driniaeth cemotherapi, yn briodol, yn amserol, ac yn cyd-fynd â chanllawiau perthnasol.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd rheolaeth glinigol Mr B na’r ffordd roedd y Bwrdd Iechyd wedi cyfathrebu ag ef yn briodol. Roedd oedi y gellid ei osgoi yn nhriniaeth Mr B nad oedd yn cyd-fynd â’r canllawiau perthnasol. Nid oedd Mr B ychwaith wedi cael peth gwybodaeth berthnasol, a oedd yn golygu na allai wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am ei ofal. Cadarnhawyd cwyn Mr B.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr B am y methiannau hyn. Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i rannu adroddiad yr ymchwiliad â’r clinigwyr a oedd yn gysylltiedig â gofal Mr B fel y gall y canfyddiadau cael eu hystyried a’u trafod ac i adolygu sut mae’n casglu ac yn rhannu gwybodaeth ar amcangyfrif amseroedd amser ar gyfer atgyfeiriadau oncoleg.