Cwynodd Ms B am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan o ran ei fethiant i’w harchwilio a’r oedi cyn gwneud diagnosis o rwyg yn nhendon padell y pen-glin.
Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd yn rhesymol, a bod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn rhesymol. Fodd bynnag, nodwyd fod Ms B wedi ysgrifennu eto at y Bwrdd Iechyd ar ôl cael ymateb i’w chŵyn, ac nad oedd wedi cael ymateb wedi hynny. Er bod yr Ombwdsmon o’r farn bod y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb rhesymol yn y lle cyntaf, dylai fod wedi ymateb i Ms B i’w hysbysu o hyn. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms B o fewn 2 wythnos, am beidio ymateb i’w llythyr arall.