You are not viewing the production site.

Dyddiad yr Adroddiad

04/02/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202505277

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei mam, C, gan y Bwrdd Iechyd cyn ei marwolaeth.

Roedd yr Ombwdsmon yn teimlo gan fod y gŵyn wedi’i gwneud cyn marwolaeth C a Chwest Crwner EF, nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ystyried pryderon penodol Miss A yn ymwneud â marwolaeth ei mam.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd, o fewn 4 wythnos, i ailystyried y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i C yn dilyn ei marwolaeth a chanfyddiadau Crwner EF, ac ymateb i Miss A sy’n ailedrych ar ei chwestiynau gwreiddiol, a’i barn bod y methiant i asesu C yn gywir wedi arwain at ei marwolaeth.