You are not viewing the production site.

Dyddiad yr Adroddiad

02/02/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Gwasanaethau i Bobl hŷn

Cyfeirnod Achos

202506391

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd Cyngor Sir y Fflint (“y Cyngor”) wedi gweithredu ar gais Ms B i uwchgyfeirio ei chŵyn am y gofal a gafodd ei thad, Mr C, i gam 2 y weithdrefn gwyno er ei bod wedi gwneud cais i’w huwchgyfeirio.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi dilyn ei weithdrefn gwyno ac nad oedd wedi gweithredu ar gais Ms B am ymchwiliad cam 2 i’w chŵyn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ar y sail y byddai’r Cyngor o fewn 2 wythnos i gyhoeddi’r penderfyniad yn:

• Ysgrifennu at Ms B i gadarnhau ei fod wedi uwchgyfeirio ei chŵyn i gam 2 y weithdrefn gwyno Gwasanaethau Cymdeithasol ac egluro’r hyn fydd yn digwydd nesaf.