You are not viewing the production site.

Dyddiad yr Adroddiad

18/02/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Gwasanaethau i Bobl ag Anabledd gan gynnwys Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl

Cyfeirnod Achos

202500138

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr C ar ran ei frawd, Mr B, gan ofyn a oedd Cyngor Caerdydd (“y Cyngor”) wedi gweithredu’n unol â’r ddeddfwriaeth, polisi a’r gweithdrefnau perthnasol (mewnol ac allanol) ac wedi ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd wrth benderfynu ar gais a wnaed am Grant Cyfleusterau i’r Anabl (“DFG”, grant gan gynghorau sy’n helpu i dalu costau addasu cartrefi unigolion anabl i wella eu hannibyniaeth) ar ran Mr B.

Canfu’r ymchwiliad fod y Cyngor wedi gweithredu’n unol â’i Feini Prawf a’r Canllawiau Addasiadau ac wedi ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd wrth wneud penderfyniad ar gais a wnaed am DFG ar ran Mr B. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.