You are not viewing the production site.

Dyddiad yr Adroddiad

27/02/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202508595

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’w chŵyn ac am ei ddiffyg cyfathrebu.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymchwilio i’r gŵyn o fewn yr amserlen berthnasol ac nad oedd wedi diweddaru Mrs A. Dywedodd fod hyn wedi achosi ansicrwydd a rhwystredigaeth i Mrs A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gynnig ymddiheuriad ac eglurhad am yr oedi a’r diffyg cyfathrebu, a’i fod yn cyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn ac yn cynnig talu iawndal o £100, o fewn 3 o wythnos.