You are not viewing the production site.

Dyddiad yr Adroddiad

18/02/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202507009

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w gŵr, yn enwedig gan y tîm Cardioleg.

Canfu’r asesiad fod yr Achwynydd wedi gofyn am gyfarfod eglurhaol â’r clinigwyr a oedd yn ei drin, ond na chafodd cyfarfod o’r fath ei drefnu. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i drefnu cyfarfod â Ms A, ei heiriolydd a’r clinigwyr perthnasol, o fewn 2 mis, i drafod ymateb pellach i’r gŵyn.