You are not viewing the production site.

Dyddiad yr Adroddiad

05/02/2026

Achos yn Erbyn

Barcud

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202506889

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A i Barcud am broblemau’n deillio o waith trwsio heb ei wneud yn ei chartref. Nid oedd Barcud wedi gweithredu i gwblhau’r gwaith a nodwyd ganddi.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd Barcud wedi rhoi sylw llawn i’r gwaith roedd angen ei wneud yng nghartref Miss A. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Miss A, gan fod y problemau’n parhau heb eu datrys, a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Cafodd yr Ombwdsmon gytundeb Barcud y byddai, o fewn 4 wythnos, yn trefnu ymweliad safle â phobl wedi’u cymhwyso’n briodol i gofnodi’r gwaith trwsio roedd Miss A yn gofyn amdano, o fewn 1 wythnos i’r ymweliad safle byddai’n anfon llythyr at Miss A yn rhestru’r gwaith trwsio roedd wedi gofyn amdano ynghyd ag eglurhad clir o’r rheswm dros dderbyn neu wrthod pob un, ac o fewn 4 wythnos o ddyddiad y llythyr hwnnw byddai’n ysgrifennu at Miss A, yn nodi’r amserlenni ar gyfer gwneud y gwaith.