You are not viewing the production site.

Dyddiad yr Adroddiad

02/02/2026

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Ffisiotherapydd

Cyfeirnod Achos

202506430

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys (“y Bwrdd Iechyd”) pan gynhaliwyd rhyddhau myoffasgial (math o dechneg a ddefnyddir i helpu i ryddhau cyhyr neu feinwe meddal) yn ystod apwyntiad ffisiotherapi. Dywedodd Ms A fod y rhyddhau myoffasgial wedi’i gyflawni heb ei gwybodaeth na’i chydsyniad a’i bod wedi profi problemau iechyd ers yr apwyntiad hwnnw.

Canfu’r Ombwdsmon er bod y Bwrdd Iechyd wedi cynnal ymchwiliad, nid oedd ei ymateb i’r gŵyn yn ddigonol, am nad oedd yn ymateb yn llawn i bryderon Ms A. Roedd y Bwrdd Iechyd wedi methu â gwneud hynny eto pan dynnodd Ms A sylw at yr agweddau annigonol yn ei ymateb. Hefyd, ers ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn, bu rhagor o apwyntiadau ac ymchwiliadau i symptomau Ms A, a oedd yn cynnwys sylw am y rhyddhau myoffasgial a’i symptomau. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi ymateb Gweithio i Wella pellach i Ms A, a fyddai’n cynnwys yr holl bryderon a fu’n destun ei chŵyn wreiddiol, y rhai a godwyd yn yr ohebiaeth ddilynol gan Ms A, a datblygiadau pellach a allai fod yn arwyddocaol ers yr ymateb gwreiddiol, gan gynnwys yr apwyntiadau a’r ymchwiliadau a gynhaliwyd. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gwblhau hyn o fewn 8 wythnos i benderfyniad yr Ombwdsmon.