You are not viewing the production site.

Dyddiad yr Adroddiad

06/02/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pwnc

Gwasanaethau i Bobl hŷn

Cyfeirnod Achos

202506235

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (“y Cyngor”) wedi rhoi gwybodaeth iddi am gostau gofal cartref a bod oedi cyn cynnal asesiad ariannol, a bod hynny wedi arwain at gost sylweddol ac annisgwyl iddi am ffioedd gofal.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi rhoi arweiniad ysgrifenedig perthnasol iddi pan ddechreuodd y gwasanaethau gofal cartref ac nad oedd wedi ei hatgoffa na rhoi cadarnhad ysgrifenedig iddi pan ddechreuwyd ar ail gyfnod o ofal. Nid oedd y Cyngor wedi gofyn am fanylion fel sail i lythyr cyfraniadau na llythyr yn ei hysbysu o gost ei chyfraniad gofal cartref am fwy na blwyddyn ar ôl i’r gofal ddechrau. Nid yw’r Cyngor ychwaith wedi rhoi sylw i ba gamau a gymerwyd ganddo i wella cyfathrebu. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y methiant i ddarparu gwybodaeth a’r cyfnod sylweddol o gyfathrebu gwael/oedi ar ran y Cyngor wedi arwain at grynhoi swm sylweddol a bod hynny wedi cael effaith ariannol annisgwyl.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i roi gostyngiad o £500 iddi yn y ffioedd gofal sy’n ddyledus, i gytuno ar gynllun ad-dalu hyblyg yn achos gweddill y ffioedd, cwblhau adolygiad o brosesau mewnol i wella cyfathrebu, ac i ysgrifennu at Mrs A i rannu’r canfyddiadau a pha gamau sydd wedi’u cymryd i wella prosesau cyfathrebu.