You are not viewing the production site.

Dyddiad yr Adroddiad

26/02/2026

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Gwasanaethau i oedolion Agored i Niwed (ee gydag anawsterau dysgu. neu â materion iechyd meddwl)

Cyfeirnod Achos

202504265

Canlyniad

Setliadau Gwirfoddol

Cwynodd Mr C am y gofal yr oedd Cyngor Abertawe (“y Cyngor”) wedi’i ddarparu i’w mab, Mr A, sy’n oedolyn ag anghenion cymorth. Mynegodd bryderon hefyd am ddiogelu, cyfathrebu, cynrychiolaeth a rheolaeth ariannol. Cwynodd Mr C hefyd nad oedd y Cyngor wedi ymateb yn ddigonol i’w gwynion am y gwasanaeth a ddarparwyd i’w fab.

Canfu’r Ombwdsmon fod camgymeriadau ac oedi sylweddol wedi bod yn y ffordd roedd y Cyngor wedi delio â chwynion Mr C rhwng 2018 a 2025. Hyd yn oed pan oedd cwynion wedi’u cadarnhau nid oedd y Cyngor wedi cymryd camau i gywiro pethau. Roedd hyn wedi niweidio’r berthynas rhwng Mr C a’r Cyngor ac wedi achosi iddo golli hyder yn ymrwymiad y Cyngor i gynorthwyo Mr A. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd y Cyngor wedi gweithredu’n briodol i sicrhau bod anghenion Mr A yn cael eu diwallu a bod ei hawliau’n cael eu diogelu. Cynigiodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor weithredu i ddatrys y gŵyn.

Cytunodd y Cyngor i ysgrifennu at Mr C o fewn 1 mis i ymddiheuro am y cyfathrebu diffygiol a’r ffordd annigonol o ddelio â’i gwynion, ei fod yn rhoi sylw i faterion sydd heb eu datrys ac yn cynnig iawndal ariannol i Mr C i gydnabod ei amser a’i drafferth i wneud y gŵyn. Cytunodd y Cyngor hefyd i gynnal adolygiad o’r trefniadau sy’n ymwneud ag arian Mr A o fewn 3 mis. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn y byddai’n briodol i setlo’r gŵyn ar sail y weithred hon.